top of page
Mottled Whites.jpg

Efa'n Ateb Cwestiynau

Am bwy wyt ti wedi sgwenni’r llyfr?

Efa: Pobl sy’n edrych ar y sêr, waeth beth eu hoedran.

Oes 'na gysylltiadau yn y llyfr y dylai’r darllenydd eu darganfod?

Efa: Nag oes! Oni bai ... O wn i’m! Dos efo’r llif!

Ymwneud â phleser mae darllen. Mae'r daith yn fwy pwysig na phen y taith. Sori. Gwibdaith.    

       

Ydy’r llyfr yn un ddifri?

Efa: Dim rîli. Gan amlaf, mae’r haul yn gwenu yn y llyfr. Mae’r lliwiau’n disgleirio. Does dim rhaid i neb fod ag ofn.

Pa lyfr byddet ti’n cymharu â Gwibdaith Elliw

Efa: Dim syniad! Albwm hen luniau, efallai?

Pam?

Efa: Mae gen i gred od, os fuaswn i'n craffu ar gefndir hen luniau, dylwn i allu gweld fy hun fel plentyn. Neu unrhyw un arall oedd yn fwy ar y pryd.


Ydyn ni i gyd yng nghefndir y stori felly?
Efa: Pwy a ŵyr? Falla ein bod ni’n byw ein bywydau, rhywle yn y cefndir.


Gei di ddisgrifio’r llyfr mewn brawddeg.
Efa: Ymdopi â’r byd rydym ni wedi ein darganfod ein hunain ynddo, waeth pa mor rhyfedd ydyw.


Unrhyw beth arall?
Efa: Gall y dychymyg greu bydoedd newydd. Paid byth ag anghofio pa mor hynod yw hynny. A hardd hefyd.


Beth ydy dy fai mwyaf wrth sgwennu?
Efa: Bydda i’n camgymryd sgwennu am beintio.

bottom of page