Dyma stori Elliw, merch ifanc bengoch sydd mewn cadair olwyn ers iddi gael damwain. Aiff Elliw ar wibdaith drwy Gymru yng nghwmni Gwenno’r oen swci: taith sy’n datgelu rhyfeddodau ac yn codi pob math o gwestiynau annisgwyl.
Mae Gwibdaith Elliw yn unigryw, nofel ag iddi elfennau o’r seicolegol a swrreal, sy’n byrlymu o syniadau diddorol ac enigmatig. Mae hi fel pos sy’n herio’r darllenydd ac yn agor fel blodyn anghyffredin, glas ei betalau.
Yr Awdur
Magwyd Ian yn Lloegr, er ei fod yn hanu o deulu Cymreig. Roedd ei dad yn Gymro Cymraeg o Gwmafan, Gorllewin Morgannwg, a’i fam o Aberafan. Ymhen hir a hwyr derbyniodd Ian her yr heniaith, a symud i Gymru yn 2011. Tua 2017 rhoddodd Ian gynnig ar ysgrifennu creadigol yn Saesneg ond ar ôl cael ei ysbrydoli gan y tiwtoriaid yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy, trodd at ysgrifennu yn Gymraeg. Mae Ian yn byw ym Machynlleth.