top of page
Mottled Whites.jpg
Efa.png

Mae meddwl Efa  mor ffrwythlon. Ffrwyth Coeden Gwybodaeth, mae’n debyg. Ond dydy hi ddim yn deall popeth ac mae hi’n chwilio am ... am beth? Merch gyffredin yw hi, tasai’r fath beth yn bod. Mae’n chwilio am darddiad creadigrwydd. Er mwyn deall creadigrwydd, mae angen iddi greu. Mae angen iddi ddychmygu a theimlo’r gwres.

Elliw.png

Mae angen i ni i gyd ddeall rhesymeg ein byd. Ti a fi, rydym wedi cyrraedd bywyd mor rhyfeddol ond rydym wedi dysgu anghofio am ei ddieithrwch. Mae Elliw'n rhy ifanc i anghofio. Â chroen mor dyner, mae angen iddi ddysgu pam mae hi’n teithio drwy Gymru. Er bod Cymru mor hardd, mae hyd yn oed ein gwlad yn gallu ymddangos yn ddirgel drwy lygaid yr un newydd anedig.

Gwenno.png

Y ddafad swci, Gwenno, sy'n gyd-ymdaith i Elliw. Mae’n amlwg ei bod yn gwybod mwy am y byd na’i meistres. Doethineb ei rhywogaeth? Doethineb yr oesoedd i gyd? Gan amlaf, mae angen cyfaill ar rai sy’n teithio mewn gobaith a bydd Elliw a Gwenno yn wynebu’r byd gyda’i gilydd. Wrth deithio gyda dafad hud, ni yw digwyddiadau rhyfeddol byth yn bell i ffwrdd.

Gwyn.png

Y dyn rhesymol mewn byd sydd newydd droi'n annisgwyl o ryfeddol yw Gwyn. Fydd e’n cael y cyfle i ymddeol a mynd i bysgota? Ond ceir yma elfen anhrefnus, dyma her i’w fywyd gwyn. Pa un yw'r gryfach, rheswm neu ddychymyg? Rho dy wialen bysgota yn y to am y tro, Gwyn, gan fod y ddaear yn troi’n draeth gwyllt!

bottom of page